Cariad
Emosiwn cryf a deimlir mewn perthynas â pherson arall ydy cariad. Mae'n rhinwedd sydd mewn athroniaeth yn cynrychioli daioni, trugaredd a gofal yr hil ddynol. Ceir cariad mam at ei phlentyn a cheir cariad mab at ferch neu gariad person at ei gyd-ddyn a sawl math arall o gariad. Yn y cyd-destun crefyddol, mae cariad yn sail ein bodolaeth ("Duw cariad yw"), ac yn sail i bob Gorchymyn dwyfol: "Câr dy gymydog fel ti dy hun." I'r bardd, mae cariad yn deimlad rhamantus, fel arfer, sy'n atyniad cryf na ellir ei dorri.
Yn y Saesneg, fodd bynnag, defnyddir y gair yn llawer mwy rhydd gan gyfeirio at bethau materol neu anifeiliaid yn ogystal ag at berson e.e. "I love my cat", "I loved that meal".
Pan fo'r cariad yn ysgogi chwant cnawdol yn y person, defnyddir y term "serch" ac ystyrir y gwahaniaeth hwn yn bwysig gan rai megis Saunders Lewis yn ei ddramâu e.e. Siwan (drama).
Hen Benillion[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir nifer o hen benillion yn Gymraeg am gariad a cholli cariad. Defnyddir llawer ohonynt, bellach, ar gardiau Dydd Santes Dwynwen:
- Llun y delyn, llun y tannau,
- Llun cyweirgorn aur yn droeau:
- Dan ei fysedd, O na fuasai
- Llun fy nghalon union innau!
- Maen' hw'n dwedyd y ffordd yma
- Nad oes dim mor oer â'r eira;
- Rhois ychydig yn fy mynwes,
- Clwyn yr eira gwyn yn gynnes.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Eros - duw cariad y Groegwyr
- Paraffilia - pan fo'r ochr erotig yn gryfach na'r rhan rhamantus
- Caru ar y gwely - hen draddodiad Cymreig
- Aphrodite - Duwies Roegaidd cariad